R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i
gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
1. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraniad cyllid Llywodraeth Cymru at Ymddiriedolaeth Thalidomide.OAQ(4)0218(HSS)
2. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A yw’r Gweinidog wedi dyrannu’r arian cyfalaf angenrheidiol i alluogi byrddau iechyd lleol i gyflawni eu cynlluniau ail-strwythuro arfaethedig. OAQ(4)0229(HSS)W
3. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trafodaethau y mae wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chanfyddiadau Adroddiad Dilnot o ran talu am ofal hirdymor i bobl hŷn. OAQ(4)0222(HSS)
4. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd agor meddygfeydd meddygon teulu yn Nwyrain De Cymru. OAQ(4)0217(HSS)
5. Elin Jones (Ceredigion): Beth yw blaenoriaethau adran y Gweinidog am y chwe mis nesaf. OAQ(4)0214(HSS)W
6. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganolfannau argyfyngau lleol mewn ysbytai yn Nwyrain De Cymru.OAQ(4)0215(HSS)
7. Gwyn Price (Islwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal pobl ifanc rhag dechrau ysmygu. OAQ(4)0224(HSS)
8. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau iechyd ar gyfer pobl Aberafan yn 2013. OAQ(4)0223(HSS)
9. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol yng Ngogledd Cymru. OAQ(4)0219(HSS)
10. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fyrddau iechyd Cymru yn cydweithio ar draws ffiniau. OAQ(4)0228(HSS)
11. Lynne Neagle (Tor-faen):A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad Gweinidogol o Wasanaethau Ambiwlans Cymru.OAQ(4)0220(HSS)
12. Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): Pa gamau gweithredu y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i ymwreiddio egwyddorion cyd-gynhyrchu wrth lunio a darparu gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. OAQ(4)0226(HSS)
13. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau i blant sydd â pharlys yr ymennydd. OAQ(4)0225(HSS)
14. Christine Chapman (Cwm Cynon):Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo bwyta’n iach yng Nghymru. OAQ(4)0212(HSS)
15. Nick Ramsay (Mynwy):Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud er mwyn helpu i leihau amseroedd aros yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. OAQ(4)0216(HSS)
Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 16 Ionawr 2013
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau diweddar y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael gyda’r proffesiwn cyfreithiol. OAQ(4)0043(CGE)W
2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ei ddyletswyddau o ran rheoliadau. OAQ(4)0044(CGE)W
Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad
Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 16 Ionawr 2013
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Comisiwn amlinellu sut y mae’n helpu staff i ddysgu Cymraeg. OAQ(4)0069(AC)W
2. Elin Jones (Ceredigion):A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ddarparu bwyd ar ystad y Cynulliad. OAQ(4)0068(AC)W